Rhif y ddeiseb: P-06-1165 Teitl y ddeiseb: Dylid gwahardd gwerthu ac yfed alcohol yn y Senedd Geiriad y ddeiseb: Rydym yn galw ar y Senedd i wahardd gwerthu ac yfed alcohol yn y Senedd. Gweithle yw'r Senedd ac nid yw’r rhan fwyaf o weithleoedd yn caniatáu alcohol yn eu safleoedd. Mae llawer o sefydliadau yn y brifddinas hefyd lle gall Aelodau o'r Senedd fynd iddynt i ymlacio ar ôl diwrnod o waith, fel sy’n wir i weddill dinasyddion Cymru.
Mae pobl eisoes yn teimlo bod diwylliant o ‘y nhw a ni’ mewn gwleidyddiaeth, a byddai hyn o gymorth i newid ychydig ar y canfyddiad hwnnw. |
Mater i Gomisiwn y Senedd yw rheoli ystâd y Senedd, gan gynnwys gosod unrhyw gyfyngiadau ar werthu ac yfed alcohol.
Mae’r gwasanaethau arlwyo a ddarperir yn y Senedd yn cael eu darparu gan gontractwr allanol, sef Charlton House & Co Group (“Charlton”).
O dan y contract hwnnw, mae Charlton yn rheoli bwyty,
siop goffi, parlyrau te, a chaffi cyhoeddus y Senedd. Mae hefyd yn
darparu gwasanaethau arlwyo ar gyfer digwyddiadau'r Senedd
a’i gweithgareddau lletygarwch. Mae gan Charlton
drwydded
i weini
alcohol ar safle’r Senedd.
Cyflwynodd y Senedd bolisi ym mis Medi 2014 yn nodi na fyddai unrhyw alcohol yn cael ei weini ar yr ystâd cyn 18:00.
Mae polisi Comisiwn y Senedd ar gyfer defnyddio Ystâd y Cynulliad[1] yn nodi:
14.1 Ni chaiff ein trwyddedeion werthu na gweini alcohol i’w yfed ar ystâd y Cynulliad cyn 6pm yn ystod yr wythnos yn ystod y tymor. Os nad yw’r Cynulliad yn eistedd, efallai y bydd y rheolau hyn yn cael eu llacio ar adegau, ond dim ond gyda chydsyniad datganedig y Llywydd y gellir gwneud cais amdano drwy’r tîm Lleoliadau. [Pwyslais y Gwasanaeth Ymchwil.]
Mae’r cyfyngiad hwn hefyd yn cael ei adlewyrchu yn y cod ymddygiad ar gyfer ymwelwyr i’r Senedd.
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |